Amdanom ni
Dod yn fuan...
View moreMae Cymru wedi’i rhannu’n dri rhanbarth, pob un yn cynnwys Parc Cenedlaethol ac un o dri Grŵp Siarter Awyr Agored Cymru. (Mae’r rhain yn fudiadau llawr gwlad sydd wedi'u sefydlu gan ymarferwyr lleol i'w helpu nhw i edrych ar ôl eu 'swyddfa' ac maent yn agored i unrhyw ymarferydd sy'n gweithredu yng Nghymru). Mae Gogledd Cymru (Calon Antur) yn ymestyn o ogledd Ynys Môn i ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri; o arfordir gwyllt Penrhyn Llŷn i glawdd Offa ac yn cynnwys Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, sir Ddinbych, sir Fflint, Wrecsam a gogledd Powys. Mae’r ardal hon wedi esgor ar Grŵp Siarter Awyr Agored Amgylcheddol Gogledd Cymru. Mae De Orllewin Cymru'n cynnwys
Ceredigion, sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a sir Benfro wrth gwrs, gyda'i Barc Cenedlaethol arfordirol gogoneddus (yr unig un yn y Deyrnas Unedig) dan ofal Grŵp Siarter Awyr Agored sir Benfro. Mae De Ddwyrain Cymru'n cynnwys Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, sir Fynwy, Pen-y-bont a de Phowys ac yn cynnwys unigeddau hardd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Sefydlwyd Grŵp Darparwyr Awyr Agored De Cymru gan ymarferwyr yno ac ymhellach i'r gorllewin. Mae gan Gymru draddodiad hir o ddarparu Dysgu yn yr Awyr Agored i bobl o bob oed a gallu. Mae gan y darparwyr yno ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd (amgylcheddol, economaidd a diwylliannol) a chynwysoldeb. Maent hefyd yn dathlu'r cyfleoedd a rydd diwylliant Cymraeg ffyniannus i bawb.
Mae'r pwyllgor gwirfoddol yn cynrychioli'r Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored yn y rhanbarth hwn, felly cysylltwch. Maent yn eich cynrychioli chi.
Belong To The Leading Network of Outdoor Learning Professionals