Search
Search
Menu
  1. Home
  2. Members
  3. Jobs
  4. Events
  5. Good Practice
  6. Awards
  7. News
  8. Help

IOL Cymru

Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored

Dysgu yn yr Awyr Agored yng Nghymru

 

English

Mae Cymru wedi’i rhannu’n dri rhanbarth, pob un yn cynnwys Parc Cenedlaethol ac un o dri Grŵp Siarter Awyr Agored Cymru. (Mae’r rhain yn fudiadau llawr gwlad sydd wedi'u sefydlu gan ymarferwyr lleol i'w helpu nhw i edrych ar ôl eu 'swyddfa' ac maent yn agored i unrhyw ymarferydd sy'n gweithredu yng Nghymru). Mae Gogledd Cymru (Calon Antur) yn ymestyn o ogledd Ynys Môn i ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri; o arfordir gwyllt Penrhyn Llŷn i glawdd Offa ac yn cynnwys Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, sir Ddinbych, sir Fflint, Wrecsam a gogledd Powys. Mae’r ardal hon wedi esgor ar Grŵp Siarter Awyr Agored Amgylcheddol Gogledd Cymru. Mae De Orllewin Cymru'n cynnwys Ceredigion, sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a sir Benfro wrth gwrs, gyda'i Barc Cenedlaethol arfordirol gogoneddus (yr unig un yn y Deyrnas Unedig) dan ofal Grŵp Siarter Awyr Agored sir Benfro. Mae De Ddwyrain Cymru'n cynnwys Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, sir Fynwy, Pen-y-bont a de Phowys ac yn cynnwys unigeddau hardd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Sefydlwyd Grŵp Darparwyr Awyr Agored De Cymru gan ymarferwyr yno ac ymhellach i'r gorllewin. Mae gan Gymru draddodiad hir o ddarparu Dysgu yn yr Awyr Agored i bobl o bob oed a gallu. Mae gan y darparwyr yno ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd (amgylcheddol, economaidd a diwylliannol) a chynwysoldeb. Maent hefyd yn dathlu'r cyfleoedd a rydd diwylliant Cymraeg ffyniannus i bawb.

Mae'r pwyllgor gwirfoddol yn cynrychioli'r Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored yn y rhanbarth hwn, felly cysylltwch. Maent yn eich cynrychioli chi.

Digwyddiadau Rhanbarthol Cymru

Newyddion Rhanbarthol Cymru

Interactive mapping at your fingertips

Interactive mapping at your fingertips

The MAGIC website provides authoritative geographic information about the natural environment from across government. The information covers rural, urban, coastal and marine environments across Great Britain.

Lluniau: Bannau Brycheiniog yn 60

Lluniau: Bannau Brycheiniog yn 60

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dathlu ei ben-blwydd y 60 eleni. Y garreg filltir nodedig sydd wedi ysbrydoli Lucy Roberts, ein ffotograffydd gwadd y mis hwn.

Theme picker

Pwyllgor Cymru

Cydlynydd Cymru - Craig Armiger

Cadeirydd Gogledd Cymru - Jenny Wilson and Graham French (Cyd-gadeiryddion)

Cydlynydd De Orllewin Cymru - Sam Swift

Cydlynydd De Ddwyrain Cymru - Craig Armiger

Trysorydd Cymru - Sheryl Confue

 

Iolo Williams - Llysgennad y Sefydliad Dysg Awyr Agored i Gymru

Iolo Williams - Llysgennad y Sefydliad Dysg Awyr Agored i Gymru

 

 

Warwick Mill Business Centre, Warwick Bridge, Carlisle, Cumbria, CA4 8RR

+44 (0)1228 564580
Email

 

 

What we collect and why

Name, Email Address, Phone Number (optional). Only if you provide it to us in order to contact you or to use our services.

Your Privacy

Who we share with

We will never sell your personal data to 3rd parties. We may share your personal data with our suppliers in order to provide our online and member services to you.

Copyright 2023 Institute for Outdoor Learning Terms Of Use Privacy Statement
Back To Top